Home > Hafan

Croeso i Gaerdydd, Prifddinas Cymru!

Welcome to Cardiff, Capital of Wales!

Dinas yn llawn gwrthgyferbyniadau yw Caerdydd, prifddinas Cymru. Mae pensaernïaeth arloesol yn sefyll ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol, tra bo aceri o barciau heddychlon dafliad carreg o brysurdeb canol y ddinas. Ar ben hynny, mae’r diwylliant Cymreig a’i ddreigiau a’i chwedlau’n cyd-fynd yn berffaith â’r ddinas fodern, llawn technoleg. Rai munudau o’r castell a’r ddinas, mae dociau Bae Caerdydd ar eu newydd wedd, a’r rheiny’n llawn bwytai a chaffis o bob math. Ben ac ysgwydd uwchben popeth yn y Bae mae Canolfan Mileniwm Cymru, sy'n gartref i saith o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru. Mae strydoedd siopa pwrpasol Caerdydd a’u marchnadoedd yn llawn siopau poblogaidd y stryd fawr, ac mae'r arcedau Fictorianaidd ac Edwardaidd sy'n plethu drwy'r ddinas yn gartref i ddwsinau o siopau annibynnol bach lle gellir cael anrhegion unigryw, dillad a bwyd, gyda naws Gymreig i lawer ohonynt. Rydych chi'n sicr o gael croeso cynnes iawn yn ein dinas. Mwynhewch eich ymweliad!

Ble i Aros

P’un ai yr ydych yn chwilio am westy moethus pum seren neu dŷ llety clyd, mae gan Gaerdydd ddigon o ddewis i blesio bob poced. Darganfyddwch fwy.

Ble i fwyta ac yfed

Mae gan Gaerdydd enw da ar gynnydd am fwytai o safon uchel, gyda’r prif gogyddion yn ddigon lwcus i gael gweithio gyda chynnyrch penigamp. Darganfyddwch fwy.


Beth i'w wneud a'i weld

Mae gan Gaerdydd ddigon i gadw’r holl deulu’n hapus. Cewch weld pensaernïaeth arloesol ochr yn ochr â hanes 2000 o flynyddoedd oed. Bae Caerdydd yw un o ddatblygiadau glan y dŵr mwyaf cyffrous Ewrop ac mae canol y ddinas yn cynnig siopau o safon. Mwy

Cynigion Arbennig

Croeso i Gaerdydd

I ddarganfod mwy ynglŷn â chynigion arbennig gan westai, atyniadau a bwytai yng Nghaerdydd ewch at ein tudalen Cynigion Arbennig yma.(y ddwy restr ar gael yn Saesneg yn unig).

Digwyddiadau

Mae Caerdydd yn ddinas o ddigwyddiadau gyda rhaglen lawn ac amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Fe gewch fandiau rhyngwladol, digwyddiadau chwaraeon, theatr, a digwyddiadau diwylliannol. Cymerwch olwg ar restr lawn o ddigwyddiadau yma.



 

Ewch i ymweld a chartref Doctor Who...

Rydych yn medru codi map leoliadau Atyniadau Caerdydd sydd heyfd yn lleoliadau ar gyfer y ddwy gyfres Doctor Who a Torchwood. Gallwch hefyd gyfuno ymweliad ag arddangosfa Doctor Who ym Mae Caerdydd efo taith o’r lleoliadau.
 


Taflen newyddion

 

 

Taflen newyddion Visit Cardiff...

Tanysgrifiwch ir daflen newyddion Visit Cardiff er mwyn derbyn e-bost o’r newyddion diweddaraf, Digwyddiadau a'r cynigion arbennig yn syth. Mae’r daflen hon yn Saesneg yn unig.

 

 

 


ble i aros teithlyfr hanfodolCyhoeddiadau...

Os ydych yn dymuno teithlyfr neu am lawr lwytho y teithlyfr  Ble i aros diweddaraf, ewch i'r dudalen brochure request. Yn Saesneg yn unig.
 
 
 
 
 
 

Cysylltwch â Chanolfan Groeso Caerdydd

Ffôn: +44(0)29 2087 3573
E-bost: visitor@cardiff.gov.uk


Logo Caerdydd