Home > Gwybodaeth am Gaerdydd > Bae Caerdydd
Bae Caerdydd

Bu dociau Caerdydd yn bwysig yn natblygiad y ddinas erioed. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, câi glo o gymoedd y De ei gludo drwy’r dociau i bedwar ban y byd – gan roi’r ynni i bweru’r oes ddiwydiannol a datblygiad Caerdydd ar yr un pryd.
Y diwydiant glo oedd yn gyfrifol am ariannu adeiladau fel Neuadd y Ddinas, Y Gyfnewidfa Lo a’r Theatr Newydd, a thrwyddo daeth Trydydd Ardalydd Bute, perchennog y dociau, yn ddyn cyfoethocaf y byd ar y pryd.
Wrth i allforion o Gaerdydd gynyddu, cynyddu hefyd wnaeth y boblogaeth. Daeth gweithwyr doc a morwyr o bedwar ban y byd i ymgartrefu mewn cymunedau’n agos i’r dociau, yn ardal Tiger Bay, a hynny o dros 45 o wledydd gwahanol gan gynnwys Norwy, Somalia, Yemen, Sbaen, yr Eidal, y Caribî ac Iwerddon. Dyma a greodd gymeriad amlddiwylliannol unigryw'r ardal.
Ar ôl yr ail ryfel byd, dirwyodd y diwydiant glo ac felly hefyd y dociau, ond yn 1999 rhoddwyd bywyd newydd i’r ardal gydag adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd, gan drawsnewid yr hen fflatiau llaid yn llyn dŵr croyw 200 hectar ac arwain y gwaith o ddatblygu’r ardal amgylchynol.
Mae Bae Caerdydd, sydd brin filltir o ganol y ddinas, bellach yn hynod o boblogaidd ymysg ymwelwyr â Chaerdydd. Mae yno nifer o fwytai, caffis a bariau yng Nghei’r Fôr-forwyn, cyfle i hwylio o amgylch y Bae ei hun, neu atyniadau fel Canolfan Mileniwm Cymru a Techniquest– canolfan wyddoniaeth ryngweithiol.
Mae Digwyddiadau a gwyliau rheolaidd, fel y Carnifal Caribïaidd a’r Ŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol, yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn a hynny’n rhad ac am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth am Awdurdod Harbwr Caerdydd, ewch i - www.cardiffharbour.co.uk I gael rhagor o wybodaeth am siopa a bwyta ar lannau’r dŵr, ewch i - www.mermaidquay.co.uk I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaid Glannau’r Dŵr, ewch i - www.visitcardiffbay.info
Lluniau: Uchod – dociau Caerdydd yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Isod – Bae Caerdydd 100 mlynedd yn ddiweddarach
Sut i gyrraedd Bae Caerdydd
Mae cyrraedd Bae Caerdydd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus iawn, felly pam na adewch chi’r car gartref am newid? Mae Traveline yn rhoi gwybodaeth am deithio ar yr holl wasanaethau bysus a rheilffordd yng Nghymru - ffoniwch 0870 608 2 608 rhwng 0700 a 2200 o’r gloch unrhyw ddydd, neu ewch i www.traveline.org.uk.
Ar drên: Mae Gwasanaethau rheilffordd rheolaidd ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, gyda chysylltiadau yng Ngorsaf Drenau Heol y Frenhines i weddill y Cymoedd a rhwydwaith llwybrau lleol Caerdydd. I gael manylion, ffoniwch y llinell Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol (24 awr) ar 08457 48 49 50 neu ewch i www.nationalrail.co.uk.
Ar fws: Mae’r gwasanaeth ‘bws y bae’ ar gael o ganol y ddinas 7 diwrnod yr wythnos. Mae’r bysus yn gadael bob 10 munud yn ystod y dydd a phob 15 munud gyda'r nos ac ar benwythnosau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cardiffbus.com.
Ar gwch: Mae’r gwasanaeth bws dŵr ar gael yn rheolaidd rhwng Cei’r Fôr-forwyn, Penarth (y Morglawdd) a chanol y ddinas bob dydd gydol y flwyddyn. I gael manylion amserlenni a phrisiau, ewch i www.cardiffwaterbus.com neu ffoniwch 07940 142 409.
Mewn car: Os ydych chi’n dod yr holl ffordd o’r tu allan i Gaerdydd mae’n rhwydd cyrraedd y Bae o’r M4. Naill ai gadewch y draffordd yng Nghyffordd 33 a dilyn yr A4232 yr holl ffordd i’r Bae, neu os ydych chi’n dod o gyfeiriad y dwyrain, gadewch yng Nghyffordd 29, dilyn y 3ydd ffordd oddi ar yr A48 a dilyn yr arwyddion i Fae Caerdydd. Unwaith i chi gyrraedd y bae, dilynwch yr arwyddion i'r maes parcio agosaf.
Site Map | Theatrau | Trefnu Teithiau | Prifddinas Gynadleddau | Canolfan Groeso | Y Tîm Diwydiant Teithio | Rhestr o Fariau | Teithiau Hanner Diwrnod | Rhestr o Westai | Rhestr o Ddigwyddiadau | Rhestr o Fwytai | Teithiau Un Diwrnod | Cystadleuaeth Yr Eisteddfod Cenedlaethol | Ffeithiau am Gaerdydd | Hanes Caerdydd | Trefnu Ar-lein | Swyddfa Gynadleddau | Atyniadau | Beth i’w Wneud a’i Weld | Gwyliau Siopa yn y Ddinas | Orielau | Rhestr o Gyrsiau Golff | Chwaraeon a Hamdden | Bae Caerdydd | Gwyliau Bwyd | Digwyddiadau | Llety | Bywyd Nôs | Teithiau Dau Ddiwrnod | Dewch i'n Cyfarfod | comp confirm | Rhestr o Glybiau | Celfyddydau ac Adloniant | Gwyliau Draig Goch a Chennin Pedr | Lleoliadau a Llety | Atyniadau a Bwytai | Gwers Gymraeg | Ble i Fwyta | Ble i Aros | Gwyliau Hwyl i’r Teulu | Trefnu Teithiau | Gefeilldrefi | Gwasanaethau | Comp land | Rhaglenni Cymdeithasol | Caerdydd Wyrdd | Gwyliau Chwaraeon i'w Gweld a'u Gwneud | Paradwys i Siopwyr | Beth Sy’n Newydd | Gwasanaethau i’r Diwydiant Teithio | Rhaglen Llysgenhadon | Parcio i Fysus | Llwybr Canmlwyddiant Caerdydd | Canllaw i’r Anabl | Trefnwyr Mordeithiau | Gwybodaeth am Gaerdydd | Canllaw i Hoywon | Sut i Gyrraedd | Gwybodaeth Gyffredinol | Diwrnodau Allan a Theithiau | Diwydiant Teithio | Cynadleddau | De Cymru | Amdanom Ni a Chysylltu â Ni | Doctor Who
Created by IT3.com SEO Site Builder - Search Engine Optimisation Specialists Wales UK

Trefnu llety ar-lein
Cynigion arbennig
Canolfan Ymwelwyr
Cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol